Cwestiynau Cyffredin
Os ydych ar y campws ac eisiau galw i mewn, fe’n lleolir yn y Cwad, yn yr Hen Goleg ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol SA31 3EP.
Mae’r Siop ar y campws ar agor yn ystod y tymor yn unig –
Dydd Llun – Dydd Gwener: 09:00 – 13:00 | 14:00 – 16:00
Dydd Sadwrn – Dydd Sul: AR GAU
Mae’r siop ar-lein ar agor trwy gydol y flwyddyn, fodd bynnag, yn ystod diwrnodau cau prifysgol gall gymryd ychydig mwy o amser i brosesu anfon archebion.
Nodyn: Bydd y Siop / Siop Ar-lein ar gau Gwyliau Banc, Dyddiau Cau’r Brifysgol a Nadolig. Ni fydd unrhyw archebion ar-lein a osodir yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu hanfon nes bod y Brifysgol yn ailagor. – Calendr Academaidd y Brifysgol ar gael yma.
Nac ydy, ceisiwn gynnwys cymaint ag y gallwn ar-lein, fodd bynnag mae rhai eitemau newydd yn aml ar gael yn y siop cyn i ni eu rhestru ar-lein Bydd y siop ar y campws hefyd yn cadw samplau a/neu pryniannau arbennig sydd mewn stoc am gyfnod cyfyngedig Ar gyfer digwyddiadau fel yr Wythnos Groesawu efallai y bydd gennym eitemau dethol sydd ar gael yn y siop yn unig.
Os bydd gennych eitemau penodol yr hoffech i ni ddod o hyd iddynt ar eich cyfer, mae croeso i chi gysylltu.
Rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â’n tîm ar shop@uwtsd.ac.uk neu drwy ffonio 01267 655305 os ydych yn cael anawsterau wrth gwblhau archeb ac mae angen cymorth arnoch.
Gallwn – galwch i mewn i’r siop neu cysylltwch drwy shop@uwtsd.ac.uk a gallwn eich cynorthwyo gyda’ch archeb.
Yn anffodus, nid yw’r Siop yn cynnig disgownt i fyfyrwyr Ceisiwn gadw prisiau’n fforddiadwy wrth gynnig eitemau o ansawdd uchel gydag ymrwymiad bythol gynyddol i gynaliadwyedd.
Os hoffech lunio archeb heb greu cyfrif, cewch ddewis ‘checkout as guest’ cyn adolygu’ch archeb. Bydd rhaid i chi ddarparu cyfeiriad e-bost i dderbyn cadarnhad am eich archeb.
Os hoffech ganslo neu newid archeb ac nid ydych eto wedi derbyn cadarnhad bod yr archeb wedi ei hanfon, efallai y bydd modd ei newid neu ei chanslo. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosib ar shop@uwtsd.ac.uk neu drwy ffonio 01267 655305.
Os yw’ch archeb wedi ei hanfon, ni allwn newid neu ganslo’ch archeb.
Mae pob eitem yn cael ei gwirio ar y pwynt anfon, ond os ydych yn sylweddoli bod eich eitem yn ddiffygiol, cysylltwch â ni gyda’r manylion diffyg a llun o’r eitem ddiffygiol cyn gynted â phosibl trwy anfon e-bost atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol shop@uwtsd.ac.uk