Diogelu Data a Phreifatrwydd
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi camau i ddiogelu preifatrwydd ar y rhyngrwyd yn unol â gofynion deddfwriaeth y DU gan gydnabod bod preifatrwydd personol yn fater pwysig
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y Brifysgol i gydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018.
Caiff y manylion personol a gesglir trwy ein gwefan ac a ddarperir gennych chi, y defnyddiwr, eu prosesu yn unol â’r ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwerthu, trwyddedu nac yn masnachu unrhyw wybodaeth bersonol i eraill. Nid ydym yn darparu gwybodaeth bersonol i gwmnïau marchnata uniongyrchol neu sefydliadau eraill tebyg.
Mae hefyd yn bosibl gwneud taliadau â cherdyn credyd neu debyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy’r wefan. Ymdrinnir â’r taliadau hyn drwy gwmni e-fasnach trydydd parti ac mae ganddyn nhw eu datganiad preifatrwydd eu hunain.
Y Polisi Cwcis
Y polisi cwcis safonol ar gyfer gwefan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw caniatáu pob cwci. Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu nodweddion penodol ar gyfer y defnyddiwr. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y defnyddiwr yn cael y profiad gorau posibl.
Os hoffai defnyddwyr barhau i gael y profiad gorau posibl ar y wefan, nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, os hoffent atal neu gyfyngu ar y defnydd o gwcis, gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio’r gosodiadau yn y porwr gwe. Hefyd a oes angen Cwcis arnaf?
Beth yw cwcis?
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu cadw ar yriant caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefan ac yn mynd trwy’r tudalennau gwe. Fe’u defnyddir yn gyffredin ac yn eang i wneud i wefannau weithio’n iawn ac yn fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwahanol fathau o wybodaeth i berchnogion y wefan.
Fe’u lluniwyd i ddal swm bach o ddata sy’n benodol i gleient a gwefan benodol, a gellir eu cyrchu naill ai gan y gweinydd gwe neu gyfrifiadur y cleient.
Dyma rai o’r ffyrdd y defnyddir cwcis:
- cadw’r tudalennau y mae’r defnyddiwr wedi edrych arnynt yn ddiweddar
- nodi unrhyw broblemau y gellid bod wedi dod ar eu traws wrth ymweld â’r wefan, er mwyn gallu datrys unrhyw broblemau
- cofio manylion mewngofnodi i gyfrifon megis Moodle ac Athens, sy’n ei gwneud yn haws i’r defnyddwyr ddod o hyd iddynt a chael mynediad iddynt
Mathau o gwcis
Gellir grwpio’r cwcis yn bedwar categori:
- Cwcis hollol angenrheidiol: Mae’r rhain yn hanfodol i alluogi defnyddwyr i symud o gwmpas y wefan a defnyddio’i nodweddion. Heb y cwcis hyn ni allwn ddarparu gwasanaethau megis taliadau ar-lein.
- Cwcis perfformiad: Trwy ddefnyddio gwefan y Brifysgol, mae’r defnyddiwr yn cytuno y gall y brifysgol roi’r mathau hyn o gwcis ar y ddyfais/dyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gysylltu â’r wefan. Mae’r rhain yn casglu gwybodaeth am y modd mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft pa dudalennau mae ymwelwyr yn edrych arnynt amlaf, ac a oes gwall wedi digwydd ar dudalen. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy’n ei gwneud yn bosibl adnabod ymwelydd. Mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei chadw’n ddienw ac fe’i defnyddir yn unig i wella’r ffordd mae gwefan yn gweithio.
- Cwcis swyddogaethol: Mae’r rhain yn cefnogi’r defnydd o’r safle ac yn galluogi nodweddion manylach sydd wedi’u personoli. Mae rhai o’r cwcis hyn yn angenrheidiol i alluogi’r defnyddiwr i symud o amgylch y wefan heb ddod ar draws unrhyw broblemau.
- Cwcis Targedu: Defnyddir cwcis targedu i ddarparu hysbysebion sy’n berthnasol i’r defnyddiwr a’i ddiddordebau. Maent yn cael eu gosod fel arfer gan rwydweithiau hysbysebu (gyda chaniatâd gweithredwr y wefan). Maent yn cofio’r defnyddwyr hynny sydd wedi ymweld â gwefan a rhennir y wybodaeth hon gyda sefydliadau eraill megis hysbysebwyr. Yn eithaf aml bydd cwcis targedu yn gysylltiedig â swyddogaeth safle a ddarperir gan y sefydliad arall Nid yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn defnyddio cwcis targedu.
Defnyddir y tri math cyntaf o gwcis yn y rhestr uchod i ganiatáu i’r wefan gofio dewisiadau a wneir gan ddefnyddiwr (megis enw, iaith neu ranbarth y defnyddiwr) a darparu nodweddion manylach, mwy personol. Er enghraifft, gall fod modd i wefan roi adroddiadau tywydd neu newyddion traffig trwy osod cwci sy’n nodi’r rhanbarth lle mae’r defnyddiwr wedi‘i leoli ar y pryd. Gellir defnyddio’r cwcis hyn hefyd i gofio newidiadau a wnaed i faint y testun, ffontiau a rhannau eraill o dudalennau gwe y gellir eu haddasu. Gellir gwneud y wybodaeth a gesglir trwy’r cwcis hyn yn ddienw; ni allant dracio gweithgarwch pori ar wefannau eraill.
A oes angen cwcis arnaf?
Oes a nac oes – yn dibynnu ar y safleoedd a ddefnyddiwch!
Defnydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o gwcis
Y polisi cwcis safonol ar gyfer gwefan y Brifysgol yw caniatáu pob cwci.
Mae preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn bwysig iawn i’r Brifysgol felly nid ydym yn defnyddio cwcis i gadw na rhannu unrhyw wybodaeth bersonol am ddefnyddwyr.
Analluogi Cwcis
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn defnyddio cwcis i wella’r profiad ar-lein.
Bydd analluogi cwcis wrth ddefnyddio gwefan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn golygu na fyddwch yn gallu mwynhau a manteisio’n llawn ar swyddogaethau a gwasanaethau gwefan y Brifysgol.
Mae’n bwysig nodi bod angen cwcis ar gyfer rhai gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol. Os yw’r gosodiadau wedi’u ffurfweddu i atal cwcis, mae’n debygol na fydd y defnyddiwr yn gallu mewngofnodi i wasanaethau megis Moodle, MyTSD ac eraill sy’n defnyddio cwcis fel rhan o’r broses ddilysu. Mae Moodle a MyTSD yn defnyddio cwcis sy’n seiliedig ar sesiwn sydd ond yn ‘fyw’ yn ystod y sesiwn porwr ac sy’n cael eu hanghofio unwaith y caeir y porwr.
Ceir rhagor o wybodaeth am reoli cwcis ar All About Cookies.
Os hoffech atal neu gyfyngu ar y cwcis a osodir gan wefan arall, gellir gwneud hyn trwy ddiwygio’r gosodiadau porwr. Gellir ffurfweddu’r rhan fwyaf o borwyr i wrthod cwcis, neu i ddarparu rhybudd cyn y bydd cyfrifiadur yn eu derbyn. Dylai’r swyddogaeth ‘help’ yn y porwr ddatgan sut i’w ffurfweddu i wrthod cwcis neu i dynnu sylw’r defnyddiwr pan gânt eu defnyddio.
Fodd bynnag, ar ôl dweud hynny, mae i gwcis eu manteision: mewn llawer o achosion maent yn gwella profiad y defnyddiwr ar-lein.
Defnydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o gwcis
Fel rheol, bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn defnyddio’r cwcis sy’n cwympo i’r categorïau canlynol:
- Cwcis cwbl angenrheidiol (i gynnwys rhai cwcis sesiynol)
- Cwcis perfformiad
- Cwcis Swyddogaethol (Sesiynol)
Defnyddir cwcis targedu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Wrth ddefnyddio cwcis targedu, bydd y Brifysgol bob amser yn gofyn am ganiatâd cyn eu gosod ar ddyfais.
Google Analytics
Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y modd mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Mae’r Brifysgol yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiadau a helpu i wella’r safle. Mae enghreifftiau o’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys y nifer o ymwelwyr â’r safle, y ddolen a ddefnyddir gan ymwelwyr i gyrraedd ein gwefan a’r tudalennau maent yn ymweld â nhw.
Cesglir y wybodaeth a’i chadw’n ddienw. I gael rhagor o wybodaeth ewch i bolisi preifatrwydd Google. Mae gan Google ychwanegyn porwr sy’n rhwystro google analytics rhag casglu data.