Hygyrchedd

Tîm Gwasanaethau’r We ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n cynnal y wefan hon. Hoffem i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hyn y golygu y dylech allu gwneud y canlynol ar y rhan fwyaf o dudalennau ar ein gwefan:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau.
  • Chwyddo hyd at 300% heb i’r testun orlifo dros ochr y sgrin
  • Symud drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Symud drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).

Pa mor hygyrch yw’r wefan

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’n gwefannau a’n gwasanaethau’n hollol hygyrch, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gywiro’r materion hyn.

  • Nid oes gan rai o’n lliwiau brand eilaidd gymhareb cyferbyniad sy’n ddigon uchel.
  • Testun amgen rhai lluniau yn absennol.
  • Nid yw rhai dogfennau, yn cynnwys dogfennau ar fformat PDF, yn gyflawn hygyrch eto.
  • Mae’n anodd symud drwy rai o’n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Os oes arnoch angen gwybodaeth o’r wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

  • E-bost: web@uwtsd.ac.uk
  • Ffoniwch: 01792 481000

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch mewn pum diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r We yn web@uwtsd.ac.uk

Trefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar Gydraddoldeb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.1.

Sut rydym yn rhoi prawf ar y Wefan hon

Rydym yn rhoi prawf ar ein Gwefan yn barhaus, ac rydym yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i wirio ein safle:

  • Profion wedi’u hawtomeiddio: Profion wedi’u hawtomeiddio: rydym yn defnyddio Siteimprove, sy’n sganio ein tudalennau am wallau hygyrchedd, ac yn rhoi gwybod i ni pa rai sydd â’r flaenoriaeth uchaf i’w cywiro
  • Profion â llaw: rydym yn defnyddio rhestr wirio hygyrchedd i wirio â llaw sampl cynrychiadol o dudalennau o bob rhan o’n gwefan. Mae hyn yn cynnwys gwirio bod modd symud drwy ein tudalennau gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, a rhoi prawf ar unrhyw gyferbyniadau lliw nad oedd modd eu gwirio’n awtomatig.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn Paratowyd y datganiad hwn ar 31 Gorffennaf 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 28 Medi 2022.