Amdanom Ni

Croeso i’r ‘Siop’, siop ar-lein swyddogol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Yn ‘Y Siop’, rydym yn falch o gynnig amrywiaeth eang o gynnyrch sy’n diwallu anghenion ein cymuned brifysgol. O eitemau ysgrifennu hanfodol a chyflenwadau celf i ddillad arbennig â brand y Brifysgol, ategolion, a rhoddion ystyriol ar gyfer pob achlysur. P’un a ydych yn fyfyriwr, cyn-fyfyriwr, staff, neu gefnogwr, ‘Y Siop’ yw’r lle i fynd ar gyfer popeth sy’n ymwneud â PCYDDS.

Wedi’i lleoli mewn man cyfleus yn y Cwad, yn yr Hen Adeilad ar Gampws Caerfyrddin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EP, mae ein siop gorfforol yn eich croesawu i ddod i archwilio ein cynnyrch yn y cnawd. Os yw’n well gennych hwylustod siopa ar-lein, mae ein gwefan yn cynnig profiad didrafferth, gan eich galluogi i archwilio a phrynu ein nwyddau o unrhyw le.

Yn ogystal â’n cynigion manwerthu, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau hanfodol megis argraffu, rhwymo a lamineiddio, gan gynnwys darparu ar gyfer gofynion penodol argraffu traethodau ymchwil a thraethodau hir.

Oes gennych chi gwestiynau? Rydym yma i’ch helpu. Cysylltwch â ni ar 01267 655305 neu drwy e-bost yn shop@uwtsd.ac.uk, a bydd ein tîm cyfeillgar yn eich cynorthwyo.

Dilynwch ni ar Instagram i gael gwybodaeth am y cynigion a’r cynnyrch diweddaraf: @uwtsdshop.

Diolch am ddewis ‘Y Siop’ – eich cyrchfan am bob peth sy’n ymwneud â PCYDDS!