- Angen argraffu a rhwymo’ch traethawd hir ar frys?
- A oes angen argraffu taflenni ar gyfer eich cymdeithas neu glwb chwaraeon?
Ymwelwch â’n stiwdio ddigidol heddiw a gadewch i’n tîm profiadol edrych ar ôl eich gofynion argraffu:
Mae ein gwasanaethau yn y siop yng Nghaerfyrddin yn cynnwys:
- Argraffu du a gwyn a lliw llawn – llungopïo a sganio.
- Lamineiddio (A4, A3 a fformat eang)
- Argraffu a rhwymo theses / traethodau hir
Galwch i mewn i weld yr ystod lawn o ddewisiadau traethawd hir a thesis ar gyfer BA, BSc, MA, MSc a PhD – cewch ddewis o’r ystod lawn o ddewisiadau rhwymo – e.e., crib/ clawr meddal/ clawr caled
Mae gwasanaethau’r Uned Argraffu yn Abertawe yn cynnwys:
- Argraffu digidol – cardiau busnes, taflenni, sticeri, cylchgronau a phortffolios
- Fformat Mawr ac Arwyddion – lapio cynfas, posteri o 120gsm hyd at gynlluniau pensaernïol, finyl, baneri, byrddau Foamex a stondinau baneri.
Mae’r holl wasanaethau ar gael i holl fyfyrwyr a staff y brifysgol a’u ffrindiau.